Mewn Undod Mae Nerth - Crynodeb o’r Cais

Dyma’r holl gwestiynau y gofynnwn yn y ffurflen gais ar gyfer Mewn Undod Mae Nerth. Mae’r canllawiau’n rhoi mwy o fanylion i chi am yr hyn fydd angen i chi ei ddweud wrthym yn eich atebion..

Section 1 - Eich prosiect

Dywedwch wrthym am eich prosiect yn yr adran hon. Dyma’r adran bwysicaf pan fydd yn dod i wneud penderfyniad p’un a ydych wedi bod yn llwyddiannus ai beidio.

Cwestiwn Canllawiau

Beth yw enw eich prosiect?

Dylai enw'r prosiect fod yn syml ac i'r pwynt.

Faint o arian rydych ei eisiau gennym ni?

Rydym yn disgwyl y bydd y rhan fwyaf o’r cyllid yn mynd i brosiectau sy’n gofyn am £200,000 i £500,000. Bydd nifer llai o ddyfarniadau ar gyfer prosiectau hyd at uchafswm o £1 miliwn. Gall y swm yr ydych yn ei gynnwys yma fod yn amcangyfrif – byddwn yn trafod hyn â chi’n fanylach os ydych chi’n cael eich gwahodd i’r cam nesaf.

Os ydych chi’n gofyn i ni am ran o’r arian yn unig, dim ond y swm sydd ei angen arnoch gennym ni sydd angen i chi ddweud wrthym amdano.

Am ba hyd y mae angen yr arian arnoch chi?

Gallwn ariannu prosiectau am hyd am 5 flynedd. Os nad yw eich prosiect yn union nifer o flynyddoedd, talgrynnwch i fyny i'r flwyddyn agosaf. Er enghraifft, ar gyfer prosiect 18 mis, dewiswch 2 flynedd.

  • 1 flwyddyn
  • 2 flynedd
  • 3 mlynedd
  • 4 blynedd
  • 5 mlynedd

Ar ba ddyddiad ydych chi'n amcangyfrif y bydd y prosiect yn dechrau?

Ein nod yw rhoi gwybod i chi os ydych wedi cael eich gwahodd i gam nesaf y broses o fewn wyth wythnos o dderbyn y cais hwn.

Bydd y cyfnod amser y bydd yn ei gymryd i dderbyn penderfyniad ar y cam nesaf yn amrywio, yn dibynnu ar faint a chymhlethdod eich gwaith, ond mae’n debygol o fod o fewn tua phedwar mis.

Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn cytuno ar ddyddiad cychwyn penodol gyda'ch swyddog ariannu.

A fyddai’n well gennych chi ddweud wrthym am eich syniad gan ddefnyddio geiriau neu fideo?

Os ydych chi'n dewis geiriau, byddwn yn gofyn 3 chwestiwn mewn arddull traethawd i chi. Os ydych chi'n dewis fideo, byddwn yn gofyn am gyfeiriad gwefan (URL) eich fideo. Rhaid i chi roi'r fideo ar wefan y gallwn ni ei chyrchu, megis YouTube.

  • Fideo
  • Geiriau

Nodwch y cyfeiriad gwefan llawn (URL) ar gyfer eich fideo

Mae enghreifftiau o safleoedd cynnal fideos yn cynnwys Dropbox, Google Drive neu fideo YouTube sydd heb ei rhestru. Gwnewch yn siŵr fod y cyfeiriad gwefan yn gywir fel y gallwn wylio eich fideo. Bydd y cyfeiriad gwefan llawn yn cynnwys yr holl lythrennau a symbolau sydd ar ddechrau’r URL. Mae hyn yn cynnwys yr http:// neu https:// ar y dechrau.

Beth ydych chi eisiau ei wneud?

Sut mae’r hyn yr ydych eisiau ei wneud yn diwallu un neu ragor o’n blaenoriaethau?

Gallwch ysgrifennu hyd at 1,000 o eiriau ar gyfer y rhan hon ond peidiwch â phoeni os ydych yn defnyddio llai o eiriau.

Rydym eisiau cefnogi gwaith sy’n canolbwyntio ar greu newid tymor hir.

  • Sut fydd eich prosiect yn parhau i gael effaith bositif ar gymunedau wedi i’r arian ddod i ben?
  • Pa wahaniaeth fydd yr arian hwn yn ei wneud?
  • Beth yw effaith tymor hirach y gwaith y tu hwnt i’r cyfnod ariannu posibl?

Gallwch ysgrifennu hyd at 1000 o eiriau ar gyfer y rhan hon ond peidiwch â phoeni os ydych yn defnyddio llai o eiriau.

Mae cymunedau cysylltiedig sy’n ffynnu’n bwysig i ni. Hoffem gefnogi prosiectau sy’n archwilio ac yn datblygu’r amodau sydd eu hangen i adeiladu cysylltiadau cryfach ar draws cymunedau

  • Sut mae’r gwaith hwn yn dod â gwahanol bobl a chymunedau ynghyd?
  • Sut fydd eich prosiect yn galluogi cysylltiadau cryfach ar draws cymunedau?
  • Sut fydd eich prosiect yn gweithio ar draws dwy wlad yn y DU neu’n fwy?

Gallwch ysgrifennu hyd at 1000 o eiriau ar gyfer y rhan hon ond peidiwch â phoeni os ydych yn defnyddio llai o eiriau.

Section 2 - Eich sefydliad

Rhowch wybod i ni am eich sefydliad, gan gynnwys enw cyfreithiol a chyfeiriad cofrestredig. Mae hyn yn ein helpu i ddeall y math o sefydliad ydych chi.

Cwestiwn Canllawiau

Beth yw enw cyfreithiol llawn eich mudiad?

Mae’n rhaid i hwn fod fel y mae ar eich dogfen lywodraethu. Gall eich dogfen lywodraethu fod wedi’i enwi’n un o sawl peth, yn dibynnu ar y math o sefydliad rydych yn ymgeisio ar ei ran. Gallai fod wedi’i enwi’n gyfansoddiad, gweithred ymddiriedolaeth, memorandwm ac erthyglau cymdeithasu, neu rywbeth arall yn hollol.

Gallech ddod o hyd iddo ar wefan gofrestru – er enghraifft Tŷ'r Cwmnïau neu Gofrestr Elusennau.

Ydy eich mudiad yn defnyddio enw gwahanol yn eich gwaith bob dydd?

Dyma sut allech gael eich adnabod os nad ydych yn cael eich adnabod gan eich enw cyfreithiol yn unig (mae’r enw cyfreithiol ar eich dogfen lywodraethu neu wefan gofrestru).

  • Ydy
  • Nac ydy

Beth yw'r enw y mae eich mudiad yn ei ddefnyddio yn ei gwaith o ddydd i ddydd?

Dyma sut y gallech gael eich adnabod os nad ydych yn cael eich adnabod fel yn unig.

Pryd sefydlwyd eich mudiad?

Dyma'r dyddiad y cychwynnodd statws cyfreithiol cyfredol eich mudiad. Dylai hwn fod ar eich dogfen lywodraethu. Os nad ydych yn gwybod yr union ddyddiad, gall fod yn ddyddiad bras.

Er enghraifft, 05-05-2024

Beth yw côd post sefydliad?

(Dewisol)

Er enghraifft, EC4A 1DE

Adeilad a stryd

Llinell cyfeiriad 2

(Dewisol)

Tref neu ddinas

Sir

(Dewisol)

Côd post

Rhif ffôn

Gwefan y mudiad

(Dewisol)

Pa fath o fudiad ydych chi?

  • Sefydliad Corfforedig Elusennol (CIO neu SCIO)
  • Cwmni nid-er-elw
  • Corff statudol
  • Elusen gofrestredig (anghorfforedig)
  • Sefydliad gwirfoddol neu gymunedol anghofrestredig
  • Sefydliad Ffydd
  • Cwmni Buddiant Cymunedol (CIC)
  • Elusen Gofrestredig a Chwmni Dielw

Rhif cofrestru elusen

(Dewisol)

Rhif Tŷ'r Cwmnïau

(Dewisol)

Section 3 - Eich manylion

Rhowch fanylion cyswllt person y gallwn gysylltu ag ef os oes gennym unrhyw gwestiynau. Fel arfer, y person sy'n llenwi'r ffurflen yw'r cyswllt hwn, felly mae'n debyg mai chi ydyw

Cwestiwn Canllawiau

Enw cyntaf (yn llawn)

Cyfenw

Cyfeiriad e-bost

Bydd eich Swyddog Ariannu’n defnyddio’r cyfeiriad e-bost hwn i gysylltu â chi am y prosiect.

Rhif ffôn

Oes gennych chi unrhyw anghenion cyfathrebu ychwanegol?

(Dewisol)

Er enghraifft, mae angen gwybodaeth arnoch mewn iaith neu fformat penodol.

Pa iaith y dylem ei defnyddio i gysylltu â chi?

  • Saesneg
  • Cymraeg

Section 4 - Eich datganiad

Er mwyn cyflwyno eich cais, bydd angen i chi gytuno i'n telerau ac amodau.

Cwestiwn Canllawiau

Rydych wedi cael eich awdurdodi gan gorff llywodraethu eich sefydliad (y bwrdd neu'r pwyllgor sy'n cynnal eich sefydliad) i gyflwyno'r cais hwn neu dderbyn y datganiad ar eu rhan.

  • Cytunaf

Rydych yn deall os yw grant yn cael ei gynnig i'ch sefydliad y bydd yn ddarostyngedig i'n telerau ac amodau.

  • Cytunaf

Mae'r holl wybodaeth rydych wedi'i darparu yn eich cais yn wir ac yn gyflawn; a byddwch yn ein hysbysu ni am unrhyw newidiadau.

  • Cytunaf

Rydych yn deall y byddwn yn defnyddio unrhyw wybodaeth bersonol rydych wedi'i darparu at y dibenion a ddisgrifir o dan ein hysbysiad diogelu data a phreifatrwydd.

  • Rwy'n cytuno

Os gofynnir am wybodaeth ynglŷn â'r cais hwn o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, rydych yn deall y byddwn yn ei rhyddhau yn unol â'n Polisi Rhyddid Gwybodaeth.

  • Cytunaf

os yw eich prosiect yn cael ei gyflwyno yng Nghymru, byddwch yn galluogi pobl i ymgysylltu yn Gymraeg a Saesneg. Mae'n rhaid i siaradwyr Cymraeg fedru cyrchu gwybodaeth a gwasanaethau yn Gymraeg ac mae'n rhaid creu pob deunydd yn ddwyieithog.

  • Rwy'n cytuno

Section 5 - Gwybodaeth fonitro Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)

Rydym am glywed mwy am y bobl a fydd yn elwa o'ch prosiect a'ch sefydliad.

Cwestiwn Canllawiau

A yw'ch prosiect ar agor i bawb neu a yw wedi'i anelu at grŵp penodol o bobl?

Os yw o leiaf 75% o'r bobl yr ydych yn eu cefnogi yn rhannu nodweddion, yna mae eich prosiect ar gyfer grŵp penodol.

Mae'n bosibl y bydd eich grŵp penodol yn rhannu un neu fwy o nodweddion. Er enghraifft, os yw 80% o'r bobl yr ydych yn gweithio gyda nhw yn ffoaduriaid benywaidd, mae hyn yn golygu eich bod yn cefnogi grŵp penodol o bobl. Yn yr enghraifft hon, maent yn rhannu dwy nodwedd — menywod a ffoaduriaid.

Gwyddom mai amcangyfrif yn unig yw hwn. Byddai'n rhy anodd gweithio allan yn union, yn enwedig os yw hwn yn brosiect newydd.

  • Mae fy mhrosiect wedi'i anelu at grŵp penodol o bobl
  • Mae fy mhrosiect ar agor i bawb

Ar gyfer pwy mae eich prosiect?

Os oedd 75% neu fwy o'r bobl a oedd yn cael eu cefnogi gan eich prosiect neu yn elwa ohono yn dod o un grŵp penodol, dywedwch wrthym pwy ydyn nhw.

Os dewiswch opsiwn, byddwn yn gofyn i chi ddweud mwy wrthym am y grŵp hwnnw.

  • Cymunedau sy'n profi annhegwch ethnig neu hiliol, gwahaniaethu neu anghydraddoldeb
  • Cymunedau ffydd
  • Pobl sy’n mudo
  • Pobl anabl
  • Pobl hŷn (65 oed a throsodd)
  • Pobl iau (o dan 25 oed)
  • Menywod a merched
  • Pobl LHDTQ+
  • Pobl sydd o dan anfantais addysgol neu economaidd
  • Grwpiau penodol nad ydynt wedi'u cynnwys eisoes

Ar gyfer pa gymuned mae eich prosiect?

Dewiswch un categori, os yn bosibl

Du/Affricanaidd/Caribïaidd/Du Prydeinig

  • Du Prydeinig
  • Affricanaidd
  • Caribïaidd
  • Unrhyw gefndir Du/Affricanaidd/Caribïaidd arall

Grwpiau ethnig cymysg neu luosog

  • Gwyn a Du Caribïaidd/Affricanaidd
  • Gwyn ac Asiaidd
  • Unrhyw gefndir ethnig cymysg/lluosog arall

Asiaidd / Asiaidd Prydeinig

  • Asiaidd Prydeinig
  • Indiaidd
  • Pacistanaidd
  • Bangladeshaidd
  • Tsieinëeg
  • Unrhyw gefndir Asiaidd arall

Grŵp arall sy'n profi annhegwch ethnig neu hiliol

  • Arabaidd
  • Iddewon
  • Cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr
  • Unrhyw grŵp ethnig arall

Ar gyfer pa gymuned ffydd mae eich prosiect?

Dewiswch un categori, os yn bosibl

  • Catholig
  • Protestannaidd
  • Enwadau Cristnogol eraill
  • Bwdhaidd
  • Hindŵaidd
  • Iddewon
  • Mwslim
  • Sikh
  • Atheist
  • Agnostig
  • Crefyddau a chredoau eraill

Ar gyfer pa grŵp o bobl sy’n mudo y mae eich prosiect?

Dewiswch un categori, os yn bosibl

  • Pobl sy’n ceisio lloches
  • Pobl â statws ffoadur
  • Pobl â statws afreolaidd ac heb ei ddogfennu
  • Pobl eraill sy’n mudo

Ar gyfer pa grŵp o bobl anabl mae eich prosiect?

Dewiswch un categori, os yn bosibl

  • Iechyd meddwl
  • Salwch neu gyflwr iechyd hirsefydlog
  • Namau symudedd
  • Nam ar y golwg/colli golwg/golwg yn rhannol
  • Byddar/drwm eu clyw/colli clyw
  • Nam ar y lleferydd
  • Nam corfforol lluosog
  • Anabledd dysgu
  • Anhawster dysgu
  • Gwahaniaeth
  • Math arall o anabledd neu nam

Ar gyfer pa grŵp oedran mae eich prosiect?

Dewiswch un categori, os yn bosibl

  • 19-25
  • 16-18
  • 8-15
  • 2-7
  • Dan 2 flwydd oed

Ar gyfer pa gymuned LGBTQ+ mae eich prosiect?

Dewiswch un categori, os yn bosibl

  • Dynion deurywiol
  • Menywod deurywiol
  • Dynion hoyw
  • Menywod lesbiaidd/hoyw
  • Dynion traws
  • Menywod traws
  • Pobl nad ydynt yn ddeuaidd
  • Pobl LHDT+ y byddwn i'n eu disgrifio mewn ffordd arall

Ar gyfer pa grŵp penodol (nad ydych wedi ei gynnwys yn barod) mae eich prosiect?

Mae enghreifftiau'n cynnwys: pobl ifanc â phrofiad gofal, gofalwyr, pobl sy'n gwella o gaethiwed alcohol, gweithwyr rhyw, pobl nad Cymraeg na Saesneg yw eu hiaith gyntaf neu sy'n cael problemau darllen, dynion a bechgyn

A fydd eich prosiect yn gweithio gyda phobl sy'n byw yng Nghymru?

  • Bydd
  • Na fydd

Faint o'r bobl a fydd yn elwa o'ch prosiect sy'n siarad Cymraeg?

  • oll
  • Mwy na hanner
  • llai na hanner
  • Dim

A fydd eich prosiect yn gweithio gyda phobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon?

  • Ydw
  • Na

Ar gyfer pa gymuned mae eich prosiect?

  • Catholig a Phrotestannaidd
  • Catholig yn bennaf (mwy na 60 y cant)
  • Protestannaidd yn bennaf (mwy na 60 y cant)
  • Nid Catholig na Phrotestanaidd

Pa wybodaeth EDI ychwanegol yr hoffech ei chynnwys am y bobl y mae eich prosiect yn eu cefnogi?

(Dewisol)

Dywedoch wrthym y bydd eich prosiect yn elwa:

Dywedwch fwy wrthym am bwy ydyn nhw.

A yw'r rhan fwyaf o'ch tîm arwain yn hunan-uniaethu eu bod yn perthyn i grŵp penodol o bobl?

Dywedwch wrthym i ba grŵp penodol y maent yn perthyn os yw o leiaf:

  • 75% o'ch bwrdd ymddiriedolwyr neu bwyllgor rheoli yn rhannu un nodwedd neu fwy
  • a bod 50% neu fwy o staff uwch yn rhannu un nodwedd neu fwy.

Os dewiswch opsiwn, byddwn yn gofyn i chi ddweud mwy wrthym am y grŵp hwnnw.

  • Cymunedau sy'n profi annhegwch ethnig neu hiliol, gwahaniaethu neu anghydraddoldeb
  • Cymunedau ffydd
  • Pobl sy’n mudo
  • Pobl anabl
  • Pobl hŷn (65 oed a throsodd)
  • Pobl iau (o dan 25 oed)
  • Menywod a merched
  • Pobl LHDTQ+
  • Pobl sydd o dan anfantais addysgol neu economaidd
  • Grwpiau penodol nad ydynt wedi'u cynnwys eisoes
  • Na
  • Mae'n well gennyf beidio â dweud

Pa gymuned mae eich tîm arwain yn rhan ohoni?

Dewiswch un categori, os yn bosibl

Du/Affricanaidd/Caribïaidd/Du Prydeinig

  • Du Prydeinig
  • Affricanaidd
  • Caribïaidd
  • Unrhyw gefndir Du/Affricanaidd/Caribïaidd arall

Grwpiau ethnig cymysg neu luosog

  • Gwyn a Du Caribïaidd/Affricanaidd
  • Gwyn ac Asiaidd
  • Unrhyw gefndir ethnig cymysg/lluosog arall

Asiaidd / Asiaidd Prydeinig

  • Asiaidd Prydeinig
  • Indiaidd
  • Pacistanaidd
  • Bangladeshaidd
  • Tsieinëeg
  • Unrhyw gefndir Asiaidd arall

Grŵp arall sy'n profi annhegwch ethnig neu hiliol

  • Arabaidd
  • Iddewon
  • Cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr
  • Unrhyw grŵp ethnig arall

Pa gymuned ffydd mae eich tîm arwain yn rhan ohoni?

Dewiswch un categori, os yn bosibl

  • Catholig
  • Protestannaidd
  • Enwadau Cristnogol eraill
  • Bwdhaidd
  • Hindŵaidd
  • Iddewon
  • Mwslim
  • Sikh
  • Atheist
  • Agnostig
  • Crefyddau a chredoau eraill

Pa grŵp o bobl sy’n mudo y mae eich tîm rheoli yn rhan ohono?

Dewiswch un categori, os yn bosibl

  • Pobl sy’n ceisio lloches
  • Pobl â statws ffoadur
  • Pobl â statws afreolaidd ac heb ei ddogfennu
  • Pobl eraill sy’n mudo

Pa grŵp o bobl anabl mae eich tîm arwain yn rhan ohoni?

Dewiswch un categori, os yn bosibl

  • Iechyd meddwl
  • Salwch neu gyflwr iechyd hirsefydlog
  • Namau symudedd
  • Nam ar y golwg / colli golwg / golwg yn rhannol
  • Byddar / drwm eu clyw / colli clyw
  • Nam ar y lleferydd
  • Nam corfforol lluosog
  • Anabledd dysgu
  • Anhawster dysgu
  • Gwahaniaeth
  • Math arall o anabledd neu nam

Pa grŵp oedran mae eich tîm arwain yn rhan ohono?

Dewiswch un categori, os yn bosibl

  • 19-25
  • 16-18
  • 8-15
  • 2-7
  • Dan 2 flwydd oed

Pa gymuned LGBTQ+ mae eich tîm arwain yn rhan ohoni?

Dewiswch un categori, os yn bosibl

  • Dynion deurywiol
  • Menywod deurywiol
  • Dynion hoyw
  • Menywod lesbiaidd / hoyw
  • Dynion traws
  • Menywod traws
  • Pobl nad ydynt yn ddeuaidd
  • Pobl LHDTQ+ a ddisgrifir mewn ffordd arall

Pa grŵp penodol (nad ydych wedi ei gynnwys yn barod) mae eich tîm arwain yn rhan ohono?

Mae enghreifftiau'n cynnwys: pobl ifanc â phrofiad gofal, gofalwyr, pobl sy'n gwella o gaethiwed alcohol, gweithwyr rhyw, pobl nad Cymraeg na Saesneg yw eu hiaith gyntaf, pobl sy'n cael problemau darllen, dynion a bechgyn

Pa wybodaeth EDI ychwanegol yr hoffech ei chynnwys am eich tîm arwain?

(Dewisol)

Dywedoch wrthym fod eich tîm arwain yn hunan-uniaethu fel:

Dywedwch fwy wrthym am bwy ydyn nhw.